ABERFFRAW

lle dechreua chwedlau

Mae Aberffraw yn lle hudolus. Cofir amdano yn y traddodiad barddoi Cymraeig fel un o dair gorsedd flaenllaw ynys Prydain. Yma yng ngwyll y gorffennol Celtaidd chwedlonol y rhoddodd Bendigeidfran -Brenin Ynys y Cedyrn, ei chwaer Branwen - y decaf o forynion - yn wraig i Matholwch, brenin lwerddon. Ac yma, yn ystod y cyfnewid anrhegion yn y wledd briodas y down i wybod am y trysor Celtaidd nerthol hwnnw, pair y dadeni.

Teyrnas Gwynedd

Wrth i'r Ymherodraeth Rufeinig golli gafael ar ei thaleithiau gorllewinol, datblygodd teyrnas annibynnol gref yng Ngwynedd - un o'r mwyaf grymus yng Nghorllewin Prydain. Sylfaen grym Gwynedd oedd ynys Môn. ac roedd Maelgwn, brenin ar ddechrau'r chweched ganrif, yn cael ei adnabod fel 'Draig yr Ynys' ac yn cael ei ystyried yn un o'r brenhinoedd mwyaf. Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg daeth Llywelyn ap lorwerth - Llywelyn Fawr - i deyrnasu dros wynedd gyfan. Ym 1230 cymerodd y teitl 'Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri.' Roedd Llswelyn Fawr yn pwysleisio'r ddolen gyswlit rhwng cadarnie mynyddig tir mawr Gwynedd - a oedd i'w weld yn amlwg iawn o dwyni tywod Aberffraw - a chalon draddodiadol, symbolaidd ac emosiynol y deymas ar ynys Môn.

Oer calon dan fron o fraw - allwynin Am frenin, dderwin ddôr, Aberffraw.

ym 1288 lladdwyd Llywelyn ap Gruffydd, y 'Llyw Olaf', yn y rhyfel yn erbyn Lloegr. Yn dilyn concwest Edward 1 o wynedd disodlwyd yr hen drefn gan weinyddiaeth newydd. Nid oedd gan lysoedd y Tywysogion bellach ran yn llywodraeth y deyrnas a meddiannwyd y tiroedd brenhinol Cymreig gan goron Lloegr.

Maerdref Aberffraw

Yn ystod Oes y Tywysogion. llywodraethid Gwynedd o rwydwaith o ganolfannau rhanbarthol. Roedd y maerdrefi hyn ar ffurf stadau brenhinol, un ym mhob cwmwd neu israniad o'r deyrnas. Calon pob maerdref oedd y Ilys neu'r palas brenhinol. Roedd Ilys a maerdref cwmwd Malltraeth yn Aberffraw. O'r ganolfan hon byddai swyddogion y Tywysog yn trefnu bod y faerdref yn cael ei rhedeg yn effeithiol a bod y trethi a'r rhenti o'r cwmwd yn cael eu hel. Roedd y taliadau hyn yn cynnwys gwaith fferm ar stad y Tywysog, a chynnyrch o gaeau'r tenantiaid eu hun yn ogystal â gwaith cairo ac adeiladu. Yn Aberffraw er enghraifft, roedd yn rhaid i'r tenantiaid gynnal y neuadd, yr ystafelloedd, llety'r anifeillaid a'r tai bach a thrwsio muriau a phorth y llys.
Ym 1317, symudwyd cant naw deg wyth trawst o'r neuadd ac o adeiladau eraill y diweddar Dywysog Llywelyn yn Aberffraw a'u defnyddio mewn gwaith yng Nghastell Caernarfon. Wrth i'r hen lys fynd â'i ben iddo mae'n rhaid bod defnyddiau eraill wedi cael eu cymryd oddi yno hefyd. Eto i gyd yr oedd yn dal yn bosibi gweld rhai o olion palas y Tywysog mor ddiweddar â'r ddeunawfed ganrif yng nghwr de orllewinol y pentref. Mae stad o dai bellach yn gorchuddio'r safle hwn.

Y safle

Nid oes unrhyw olion o'r llys wedi goroesi uwch lefel y pridd ond ceir rhai arwyddion o'i hen leoliad. Mae gwaith cloddio archaeolegol yn agos at ganol y pentref wedi dangos tystiolaeth o amddiffynfa clawdd a ffos sylweddol Cafodd y gwrthglawadd hwn ei ailgodi ymhell cyn i'r pentref gymryd el ffurf bresennol. Credai'r cloddiwr fod caer Rufeinig wedi sefyll ar un adeg ar y codiad tir uwchben man croesi'r arfon Ffraw a bod y tir amgaeedig hwn wedi dod yn ganolbwynt y1lys canoloesol cynnar.

'Tua'r fan bon y safai Palas Brenhinol Tywysogion Gogledd Cymru o'r Llinach Gymreig nad erys dim ohono heddiw - cariwyd y cerrig i godi Cloddiau ac i adeiladu tai tua 30 mlynedd yn ôl.'

Ychwanegwyd y pennawd hwn at arolwg stad o Aberffraw ym 1777 .

Trwyn Du

Naw mil o flynyddoedd yn ôl arferai cymunedau o bobl a oedd yn hela ac yn casglu bwyd symud dros diroedd eang i chwilio am fwyd. Canfuwyd fflawiau callestr, y deunydd gwastraff a oedd weddill ar ôl gwneud adfachau ar gyfer gwaywffyn a saethau, yn dystiolaeth o'u gwersylloedd dros dro ar hyd glannau'r Ffraw ac ar Drwyn Du. Y twmpath isel wedi'i orchuddio â gwair a welir yn awr yw'r cyfan sy'n weddill o gofeb lawer diweddarach. Tua 1700CC seliwyd bedd o'r Oes Efydd Gynnar gyda chanedd o gerrig. Rhoddwyd cwrbyn o gerrig unionsyth o amgylch y garnedd. Byddai'r bedd hwn wedi bod yn nodwedd amlwg iawn ar y penrhyn.

Eglwys Beuno Sant

Mae nodweddion cynharaf eglwys Beuno Sant sydd wedi goroesi yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif pan adeiladwyd yr eglwysi cerrig cynharaf ar ynys Môn. Gall pwysigrwydd Aberffraw yn y canrifoedd cynharach fodd bynnag olygu mai cymryd lie egiwys bren wnaeth yr eglwys gerrig. Mae'r drws deheuol yn perthyn i'r bedwaredd ganrif ar ddeg ac ychwanegwyd yr ystlys ogleddol yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ailadeiladwyd llawer o elfennau'r eglwys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodwedd bwysig a thrawiadol o eglwys Beuno Sant yw'r bwa Romanésg yn y mur gorllewinol, wedi'i addurno â chyplysau a phennau anifeiliaid.

Eglwys Sant Cwyfan

Saif eglwys Sant Cwyfan mewn safle dramatig ar ynys fechan oddi ar yr arfordir, gyda chawsai yn ei chysylltu â'r tir mawr. Mae'n debyg i'r eglwys gael ei hadeiladu yn y ddeuddegfed ganrif. Ychwanegwyd ystlys arall, gydag arcêd, ar yr ochr ogleddol yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond fe'i dymchwelwyd bron i 200 mlynedd yn ôl.

Llangadwaladr

Eglwys o'r ddeuddegfed neu'r drydedd ganrif ar ddeg yw Llangadwaladr, gyda changell wedi'i hychwanegu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a dau gapel ochr, yr un deheuol wedi'i ychwanegu ym 1661. Fodd bynnag, mae'n bosibi i'r eglwys hon fod un waith yn gapel brenhinol a chiaddfa'r llys yn Aberffraw. Mae'r eglwys wedi'i chysegru i Cadwaladr, brenin Gwynedd yn y seithfed ganrif, a oedd efallai yn noddwr i'r eglwys. Mae'r maen coffa i daid Cadwaladr, Cadfan, a gedwir bellach yng nghorff yr eglwys, yn un o'r darnau pwysicaf o dystiolaeth i'r deyrnas yn ystod y cyfnod hwn. Disgrifia Cadfan fel y 'doethaf a'r enwocaf o frenhinoedd'.
Mae eglwys Llangadwaladr hefyd yn enwog am y gwydr o ddiwedd y bymthegfed ganrif a geir yn y ffenestr ddwyreiniol.

 


Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd


Menter Môn

Illustrations © Ian Jones
Contents copyright / Cynnwys hawlfraint: Menter Môn, Cyswllt Cyf, 1997-2000. Arlunydd, Designed by Peter Moore.


menternet