ANERCHIAD YRYSGRIFENNYDD GWLADOL I FFORWM DWYIEITHRWYDD GOGLEDD CYMRU YNTHEATR GOGLEDD CYMRU, LLANDUDNO, DDYDD MAWRTH, TACHWEDD 6, 1998
Rydw in ddiolchgar irCynghorydd John Hughes, ac i John Elfed Jones, am eu croeso.
Maen beth hollol addas i chi fodwedi dewis John Elfed i lywyddu fel Cadeirydd cynhadledd syddâr teitl "Dwyieithrwydd yn y Gymru Newydd".
Mae ganddor profiad o fod yngyn-Gadeirydd y sefydliad ymgynghorol, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, aosododd sylfaen mor gryf, dan ei gyfarwyddyd ef, ar gyfer y Bwrddstatudol syn ein gwasanaethu ni heddiw.
Mae ei gadeiryddiaeth yn ystod yflwyddyn ddiwethaf hon o Grwp Ymgynghorol y CynulliadCenedlaethol wedi ennill edmygedd ym mhob cyfeiriad. Mae wediennill fy edmygedd i yn sicr. Fe roddodd o gyfraniad gwerthfawriawn tuag at y paratoadau ar gyfer y Gymru newydd.
Rwyn edrych ymlaen at glywedanerchiad yr Arglwydd Elis-Thomas. Byddaf i yn dibynnunfawr ar gyngor Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystod y misoedd nesaf,wrth inni wneud y trefniadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaetholdwyieithog.
Mi fyddwn in hoffi medru aros iwrando ar eich holl siaradwyr heddiw. Maen nhw i gyd ynbobl sydd wedi dangos beth sydd modd ei wneud i wellasefyllfar iaith Gymraeg, cyn belled ag y ceir yr ewyllysar penderfyniad i wneud hynny
Cefais fy atgoffan arbennig ambwysigrwydd yr iaith Gymraeg ym mywyd Cymru pan oeddwn inrhodianna o gwmpas maes yr Eisteddfod ym Mhencoed yn ystod yr hafeleni. Maer Eisteddfod yn un or ychydig o lefydd llegellwch chi gymryd yr iaith Gymraeg yn ganiataol. Yr her i ni igyd yn ystod y blynyddoedd nesaf fydd symud i sefyllfa lle gallwnni gymryd yr iaith Gymraeg yn ganiataol ble bynnag y byddom yngNghymru.
Yr unig adeg y gellwch gymrydpethaun ganiataol ydi pan fyddan nhwn saff a diogel,ac yn mynd i fod yno am byth. Dichon na fyddwn ni mewn sefyllfa igymryd yr iaith yn hollol ganiataol am beth amser, ond dynasefyllfa ardderchog sydd gennym i edrych ymlaen ati ac igynllunio ar ei chyfer.
Roedd y rhan fwyaf or bobl ysiaradwn â hwy ym Mhencoed yn edrych ymlaen yn eiddgar at yCynulliad Cymreig. Ac mi rydw innaun teimlor uneiddgarwch tuag ato.
Dro ar ôl tro, fodd bynnag, femcawn fy hun yn dweud wrth bobl mair hyn rydym ni wedi eiwneud ydi gosod sylfeini ar gyfer y Gymru newydd - a bod y gwaithgwirioneddol yn disgwyl am gael ei wneud gennym o hyn ymlaen.
Rydw in lecio meddwl ein bod wedidechrau gweithio ar y sylfeini hynny yn syth ar ôl inni gael einhethol fel Llywodraeth y llynedd.
O safbwynt yr iaith Gymraeg yn arbennig,roeddwn in benderfynol o ddefnyddio fy swydd felYsgrifennydd Gwladol i wella statws yr iaith.
Fe fyddai wedi bod yn ddigon hawddanwybyddu rhai problemau a disgwyl nes deuair Cynlluniad ermwyn i hwnnw eu hwynebu. Fe fyddai hynny hefyd wedi bod yn bethrong.
Ac, felly, rydw in falch iawn innifedru cymryd amryw o gamau positif yn ystod ein blwyddyn gyntaffel Llywodraeth i wella sefyllfar iaith Gymraeg.
Rydym wedi cytuno i gefnogir MesurAelodau Preifat, sydd i gael ei gyflwyno gan yr ArglwyddElis-Thomas, ac a fydd yn rhoi hawl i rieni syn byw yngNghymru gael defnyddior Gymraeg i gofrestru genedigaethplant a enir iddynt yn Lloegr. Rydw in disgwyl y byddwn ynmedru symud ymlaen gyda hyn yn fuan iawn.
Maer Llywodraeth hon wedi datganhefyd y bydd yn arwyddo Siarter Cyngor Ewrop ar IeithoeddRhanbarthol a Lleiafrifol. Rydw in ystyried hyn yn symbolpwysig on cefnogaeth an parch tuag at ieithoeddlleiafrifol, ac at yr egwyddorion syn gynwysedig yn ySiarter.
Rydym wedi dod â mwy a mwy oriaith Gymraeg i mewn i weithrediadaur Uwch-bwyllgor Cymreig(??). Mae hynny wedi gweithion dda, ac mae wedi rhoi cyfleinni "rihyrsio" ar gyfer gweithrediadau ehangach yCynulliad Cymreig.
Rydw i hefyd wedi sicrhau bod addysguCymraeg fel pwnc wedi cael ei gryfhau ym maes llafur ysgolion. Oganlyniad, bydd pob ysgol yng Nghymru, yn ddiwahân, yn addysguCymraeg or flwyddyn nesaf i bob disgybl hyd at 16 oed.
Mae gennym lawer o athrawon ymroddedigsyn addysgur Gymraeg yng Nghymru, a gwn y byddant hwyau hawdurdodau addysg yn benderfynol o wneud y polisinewydd yma yn llwyddiant
Rydw in falch iawn bod fy nghyfnodfel ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi cyfleoedd imi hefyd igefnogir gwaith a wneir gan bobl eraill i hyrwyddoriaith Gymraeg. Dydw i ddim am roi hanes manwl am y digwyddiadau ybu*m yn eu mynychu. Gadewch imi ddim ond dweud mair mwyaf ydeuwn i wybod amdanynt, y mwyaf yn y byd yr oeddwn yn edmygugwaith mudiadau fel yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y MudiadMeithrin, a Chanolfan Uwch-astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.Cefais gyfle hefyd i ddangos fy nghefnogaeth i awdurdodau lleolac eraill sydd wedi sefydlu eu cynlluniau eu hunain ar gyfer yriaith Gymraeg.
Gwnaeth rôl y Mentrau Iaith argraffarbennig arnaf. Rwyf wedi gweld esiamplau ou gwaith drosoffy hun pan lansiais Fenter Iaith Myrddin. Heb ddim amheuaeth, fefydd defnyddior iaith Gymraeg yn y gymuned yn ffactorallweddol i ddiogelu dyfodol yr iaith.
Felly, maer sylfaen wedi cael eigosod ar gyfer y Gymru newydd, ac ar gyfer ller iaithGymraeg ynddi hi. Beth syn digwydd nesaf?
O safbwynt y Cynulliad Cymreig,rwyn benderfynol iddo gymryd yr iaith Gymraeg yn ganiataolfel rhan oi weithrediadau. Rwyf yn gobeithio ac yn disgwyly clywaf lawer o Gymraeg yn cael ei siarad yn y Cynulliad.
Fodd bynnag, rwyf hefyd yn gobeithio nafydd gan ei aelodau unrhyw achos i ddadlau ynghylch ydefnydd or Gymraeg yn ei weithrediadau. Mewn geiriaueraiill, rwyf am ir iaith Gymraeg gymryd ei llennaturiol ac yn gyfforddus ochr yn ochr âr Saesneg yngngweithrediadaur Cynulliad. Rwyf am ir aelodau fedrucael siarad Cymraeg heb deimlon annifyr neu deimlo embaras.
Maer Mesur Llywodraeth i Gymru ynrhoi statws cyfartal ir Gymraeg ac ir Saesneg yn yCynulliad. Maen rhaid i ninnau drosir cydraddoldebhwnnw yn realiti ymarferol os ywr Cynulliad i adlewyrchunatur ddwyieithog ein gwlad.
Rwyn siw*r bod llawer ohonoch yngyfarwydd âr cynlluniau sydd gennym ar gyfer Cynulliaddwyieithog. Gadewch imi eu hategu er mwyn iddynt fod yn sylfaenir trafodaethau a fydd gennych chi yma yn ddiweddarachheddiw.
Bydd Aelodaur Cynulliad yn caelsiarad mewn Cymraeg a Saesneg yn nadleuon llawn y Cynulliad acyng nghyfarfodydd ei bwyllgorau. Fe ddarperir cyfleusteraucyfieithu an gyfer y dadleuon ar pwyllgorau hynny.
Bydd yr holl bapurau a ddarperirir aelodau ar gyfer dadleuon a phwyllgorau yn rhaidwyieithog.
Gall aelodau or cyhoedd ddefnyddioCymraeg neu Saesneg pan fyddant yn trafod busnes gydarCynulliad.
Bydd deddfwriaeth lai pwysig yn cael eichynhyrchu yn y Saesneg neur Gymraeg - cam pwysig iawnymlaen - fel y cytunwch, reit siw*r.
Er i mi ddweud fy mod am i hyn i gydgael ei gymryd yn ganiataol, dwi ddim am honni y bydd yn hawdd.Mae gennym dasg ddirfawr i adeiladu ar ein disgwyliadau, ac iofalu y bydd y drefn ddwyieithog yn rhedeg yn llyfn.
Bydd Gwasanaethau CyfieithurCynulliad yn cael eu lleoli o fewn swyddfar SwyddogGweinyddol. Bydd hynnyn symboleiddio ac yn sicrhau euhannibyniaeth ac yn rhoi mwy o urddas ar eu statws fel gwasanaethcanolog ir Cynulliad.
Rydym eisoes wedi penodir DrMeinir Pritchard yn Bennaeth newydd ar WasanaethauCyfieithur Cynulliad, ac rwyn falch bod Meinir ymaheddiw.
Byddwn yn hysbysebu yr wythnos nesaf amgyfieithwyr ar y pryd, ac am ragor o gyfieithwyr dogfennau - gangynnwys y rhai a all ddod yn arbenigwyr yn y gwaith o gyfieithudogfennau cyfreithiol.
Maen dda iawn gen i y byddwn ynmedru manteisio ar yr arbenigedd y mae Cyngor Gwynedd wedi eiadeiladu yn y maes yma or gwaith. Mae Arweinydd y Cyngor,Mr Alun Ffred Jones, wedi bod yn hael iawn yn cynnig cymorth eiawdurdod, ac rydym eisoes wedi derbyn llawer iawn o gyngor gan eiswyddogion.
Hoffwn dalu teyrnged neilltuol i MrHedley Gibbard, Pennaeth uned gyfieithu Gwynedd, sydd yma efo niheddiw. Mae ei gyngor doeth wedi bod yn hynod o werthfawr inni ynbarod. Bydd Mr Gibbard yn paratoi rhaglen o hyfforddiant ar gyfery cyfieithwyr ar y pryd yn y Cynulliad, gyda chymorth awdurdodaueraill a chwmnïau cyfieithu preifat.
Ein nod cyffredinol ni yn hyn oll fyddrecriwtio a hyfforddi tîm o gyfieithwyr ar y pryd a chyfieithwyrdogfennau a fydd yn medru bod yn hollol gymwys ar ddiwrnod cyntafy Cynulliad.
Gobeithio y bydd y rhai syngweithio ym maes cyfieithu yng Nghymru yn rhoi ystyriaeth ddofnir cyfleoedd newydd hyn am swyddi ac yn gwneud caisamdanynt. Mae hwn yn gyfle unigryw ir proffesiwn gael bodâ rhan mewn datblygiad hanesyddol.
Bydd y rhai syn ymunon awr -ac syn dod yn gyfieithwyr ar y pryd yn y Cynulliad - ynmedru dweud wrth eu cyfeillion au teuluoedd yn yblynyddoedd sydd i ddod, yn ngeiriau Max Boyce, "Roeddwn iyno".
Bydd y Cynulliad yn dyrchafu a choethistatws yr iaith Gymraeg os bydd ei aelodau iw gweld yndefnyddior iaith yn naturiol a digymell. Er mwyn i hynnyddigwydd, mae angen ir trefniadau syn cefnogidwyieithrwydd yn y Cynulliaid fod yn rhai di-ail.
Felly, yn ogystal âr cyngor agafwyd gan Gwynedd, byddwn hefyd yn astudior dulliau addefnyddir mewn cynulliad dwyieithog arall, megis yr un sydd yngNghatatonia. Rydw in benderfynol y bydd y trefniadau, ycyfleusterau ar dulliau o weithio y rhai gorau a mwyafeffeithlon y gallwn eu dyfeisio.
Rwyn ddiolchgar i Fwrdd yr IaithGymraeg am oruchwylio prosiect ar ein rhan i ddatblygu terminolegsafonol ar gyfer y Cynulliad. Bydd y derminoleg hon ar gyfergweithrediadau busnes mewnol y Cynulliad, yn ogystal ârpynciau (megis iechyd ac amaethyddiaeth) y bydd y Cynulliad yngyfrifol amdanynt.
Rydw in awyddus iawn inniddefnyddior amser rhwng nawr a mis Mai nesaf igadarnhaur sylfeini ar gyfer y Cynulliad newydd, ac i godiymwybyddiaeth y cyhoedd oi bwerau, ei gyfrifoldebauai botensial. Mae eich cynhadledd chi yma heddiw yngyfraniad sylweddol ir broses honno.
Hoffwn longyfarch Fforwm DdwyieithogGogledd Cymru am drefnur gynhadledd hon heddiw, acrwyn dymunon dda i chi efoch rhaglen am ygweddill or diwrnod.