Cyfansoddiad

2.0 Datganiad o Fwriad
   
2.1 Amcan sylfaenol y Fforwm yw hyrwyddo dwyieithrwydd ymhob rhan o’r gymuned ledled Gogledd Cymru er mwyn creu sylfaen ar gyfer cymdeithas ddwyieithog gref ar gyfer y dyfodol.
   
2.2 Mae’r Fforwm yn gynulliad o Aelodau Etholedig, Aelodau Byrddau ac Aelodau Pwyllgorau gwaith a swyddogion, a hynny mewn cyrff cyhoeddus a phreifat a mudiadau gwirfoddol yng Ngogledd Cymru.
   
2.3 Mae’r Fforwm yn fodd i Aelodau ymdrin â materion dwyieithrwydd mewn modd a fydd o gymorth cyffredin.
   
3.0 Gwerthoedd
   
3.1 Mae’r Fforwm yn cydnabod y sefyllfa economaidd bresennol a’r angen i sicrhau arbedion trwy gydweithio ac o’r herwydd mae’r Fforwm yn dymuno sicrhau fod ei holl waith, i Aelodau ac i’r Gymuned yn gyffredinol, yn cynnig gwerth am arian. Mae’n bwysig felly ein bod yn gweithio mewn modd hyblyg gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd wrth law.
   
4.0 Amcanion
   
4.1 Cynghori amrywiol gyrff/mudiadau (yn aelodau ac fel arall) ar faterion sy’n ymwneud â dwyieithrwydd.
   
4.2 Creu ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd ar gyfer teuluoedd, cymunedau, cymdeithasau, awdurdodau cyhoeddus, diwydiannau a masnach.
   
4.3 Cryfhau, lle mae angen, darpariaeth o wasanaethau/gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus
   
4.4 Datblygu ymhellach y defnydd o’r Gymraeg ymhob busnes, bach a mawr, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu dadwladoli
   
4.5 Cynorthwyo a galluogi’r sector gwirfoddol i gynyddu ei defnydd o’r Gymraeg
   
4.6 Hybu asesiad parhaol o’r gwahanol wasanaethau/gweithgareddau a gynigir mewn amryfal feysydd er mwyn sicrhau bod y gweithlu priodol ar gael bob amser
   
4.7 Portreadu cymdeithas ddwyieithog gogledd Cymru, yn arbennig yr iaith Gymraeg, mewn termau cadarnhaol i drigolion y rhanbarth, ac i ymwelwyr a darpar fuddsoddwyr
   
4.8 Sicrhau cydweithrediad rhwng holl aelodau’r Fforwm yngl n â materion o ddiddordeb cyffredinol er mwyn osgoi dyblygu ymdrechion.
   
5.0 Pwerau
   
  Er mwyn hyrwyddo’r amcanion hyn gall Fforwm Ddwyieithrwydd Gogledd Cymru:
   
5.1 gyflogi a thalu unrhyw bersonau i arolygu, trefnu a gweithredu gwaith y Fforwm.
   
5.2 hyrwyddo a chynnal ymchwil, arolygon ac ymchwiliadau gan gyhoeddi canlyniadau.
   
5.3 drefnu a darparu, neu gyd-drefnu a darparu ar gyfer cynnal arddangosiadau, cynadleddau, cyfarfodydd, darlithoedd, dosbarthiadau, seiadau, seminarau, a chyrsiau hyfforddi.
   
5.4 gasglu a lledaenu gwybodaeth ar yr holl faterion sy’n effeithio ar yr amcanion, a chyfnewid gwybodaeth â chyrff/mudiadau/mudiadau eraill.
   
5.5 baratoi a chyhoeddi, dosbarthu a chylchredeg, am ddim neu fel arall, bapurau, llyfrau, cylchgronau, pamffledi (boed mewn print neu ffurf electroneg) neu ffilmiau, dapiau sain a fideo a fydd yn hyrwyddo’r amcanion a nodwyd.
   
6.0 Aelodaeth
   
6.1 Bydd y Fforwm yn codi tâl aelodaeth flynyddol ar y Cynghorau. Caiff lefel y tanysgrifiadau eu pennu yn flynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
   
6.2 Bydd gan pob corff yr hawl i enwebu un cynrychiolydd ar y Fforwm. Bydd gan y Cynghorau yr hawl i enwebu un aelod ac un Swyddog.
   
7.0 Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
   
7.1 Bydd pob corff sy’n aelod yn penodi cynrychiolydd i fynychu Cyfarfod Cyffredinol. Os bydd y person hwnnw yn ymddiswyddo neu’n gadael y gymdeithas, bydd ef neu hi yn peidio â bod yn gynrychiolydd y corff.
   
7.2 Gall pob corff sy’n aelod benodi dirprwy os bydd y cynrychiolydd a benodwyd yn methu mynychu unrhyw Gyfarfod Cyffredinol o’r Fforwm.
   
7.3 Bydd gan bob corff sy’n aelod yr hawl i anfon sylwebyddion na fydd ganddynt bleidlais i’r Cyfarfod Cyffredinol.
   
8.0 Swyddogion Mygedol
   
8.1 Bydd gan y Fforwm hawl i ethol Aelodau Anrhydeddus.
   
8.2 Yn y cyfarfod cyntaf ac o hynny ymlaen mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, bydd y Fforwm yn ethol Cadeirydd ac Is Gadeirydd yn ôl yr angen.
   
8.3 Rhaid i’r Cadeirydd a’r Is Gadeirydd fod yn gynrychiolwyr o’r Awdurdodau Lleol sy’n aelodau. Bydd y Gadeiryddiaeth yn newid dwylo pob dwy flynedd, gyda’r Is Gadeirydd yn cymeryd y Gadair.
   
8.4 Bydd pob swyddog mygedol yn gwasanaethu mewn un swydd am uchafswm o ddwy flynedd yn olynol.
   
8.5 Rhaid i unrhyw swydd wag ymhlith y swyddogion mygedol gael ei llenwi drwy gytundeb mwyafrif y cyrff/mudiadau sydd yn mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol perthnasol.
   
9.0 Grwp Llywio
   
9.1 Mae’r Fforwm wedi sefydlu Gr p Llywio a fydd yn cynnig arweiniad strategol i’w gwaith.
   
9.2 Bydd y Grw p yn llunio Amcanion y Fforwm a Cynlluniau Gweithredu blynyddol i’w cymeradwyo gan y Fforwm llawn.
   
9.3 Aelodaeth y Grwp yw Ysgrifennydd y Fforwm a Swyddogion Iaith yr Awdurdodau lleol sydd yn aelodau o’r Fforwm. Bydd croeso i aelodau eraill ymuno â’r gr p os fyddent yn trafod pynciau perthnasol.
   
9.4 Bydd y Swyddogion Iaith yn cynnig cefnogaeth i’r Ysgrifennydd fel bo’r angen.
   
9.5 Bydd y Grwp yn cyfarfod yn chwarterol, rhwng pob cyfarfod o’r Fforwm llawn.
   
10.0 Rheolau Trefn Cyfarfodydd y Fforwm
   
10.1 Cworwm: Y Cworwm mewn Cyfarfodydd y Fforwm fydd traean yr aelodaeth.
   
10.2 Pleidleisio: Fe fydd pob mater sy’n codi yn cael ei benderfynu drwy fwyafrif syml. Bydd gan yr holl aelodau un bleidlais, yn ogystal â swyddogion y gr p llywio. Bydd gan y Cadeirydd pleidlais daro cyn belled ei fod wedi pleidleisio yn y rownd gyntaf.
   
10.3 Cofnodion: Cedwir cofnodion dwyieithog o gyfarfodydd y Fforwm llawn a’r Gr p Llywio. Yr Ysgrifennydd fydd yn gyfrifol am gadw’r cofnodion. Bydd y cofnodion yn cael eu cylchredeg i bob corff sy’n aelod.
   
10.4 Rheolau Sefydlog a Rheolau: Bydd gan y Fforwm y grym i fabwysiadu a dosbarthu Rheolau Sefydlog a neu Reolau er mwyn arwain materion y Fforwm. Caiff y fath Reolau Sefydlog a/neu Reolau eu cytuno gan Gyfarfod Cyffredinol a’u gweithredu ar unwaith cyhyd â’u bod yn gyson â’r cyfansoddiad a gallant fod yn destun adolygiad mewn unrhyw Gyfarfod Llawn o’r Fforwm wedi hynny.
   
10.5 Bydd disgwyl i aelodau’r Fforwm dderbyn manylion ac adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd o leiaf saith diwrnod o flaen llaw.
   
11.0 Cyllid
   
11.1 Bydd yr holl arian a gaiff ei godi gan neu ar ran y Fforwm yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo amcanion y Fforwm ac nid ar gyfer unrhyw bwrpas arall, cyhyd â bod dim arall yn rhwystro’r taliad mewn ewyllys da o dâl cywir ac addas i unrhyw un o weithwyr y Fforwm neu ad-dalu costau rhesymol.
   
11.2 Cedwir cyfrifon cywir.
   
11.3 Bydd y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 Mawrth.
   
12.0 Newid i’r Cyfansoddiad
   
12.1 Rhaid i unrhyw newidiadau i’r cyfansoddiad gael ei gymeradwyo gan o leiaf dwy ran o dair o aelodaeth Fforwm mewn Cyfarfod Cyffredinol. Rhaid i unrhyw gynigion i newid y cyfansoddiad gael eu cylchredeg gyda hysbyseb y cyfarfod.

 

Yn ol i'r hafan dudalen