Aelodaethy Fforwm

Mae aelodaeth y Fforwm yn cynnwys cyrff cyhoeddus, cyrff preifat a chyrff gwirfoddol sy’n adlewyrchu trawsdoriad o wasanaethau ledled gogledd Cymru. Ffurfiwyd y Fforwm yn wreiddiol gan bedwar o Gynghorau Sir y gogledd ac mae gan bob un o’r Cynghorau hynny ddau aelod ar y Fforwm, un aelod etholedig ac un swyddog. Mae swyddogion y cynghorau hyn yn cynorthwyo gyda chyfeiriad strategol y Fforwm trwy gydweithio gyda’r Ysgrifennydd a’r Cadeirydd a’r Grwp Llywio. Mae un cynrychiolydd yr un ar y Fforwm gan y cyrff eraill.

 

Mae aelodaeth y Fforwm fel a ganlyn:
  • Adran Amaethyddol y Swyddfa Gymreig
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Awdurdod Datblygu Cymru
  • Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
  • Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru
  • BT
  • Popeth Cymraeg
  • CBI Cymru
  • CELTEC
  • Coleg y Brifysgol Bangor
  • Cownteri’r Swyddfa Bost
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir Wrecsam
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Twristiaeth Gogledd Cymru
  • Dwr Cymru
  • Gwasanaethau Gwirfoddol Siroedd y Gogledd
  • Manweb
  • Menter Coedwigaeth
  • Menter Iaith Gwynedd
  • Menter Iaith Môn
  • North Western Trains Ltd
  • Siamber Farchnad Gogledd Cymru a Chaer
  • Transco

 

Ynol i'r hafan dudalen