MenterIaith Môn
|
CYFLWYNIAD |
Prifddyletswydd Menter Iaith Môn yw hyrwyddo a hwyluso defnyddor Gymraeg ar yr
Ynys drwy gydweithio ag unigolion, mudiadau a busnesau yn ygymuned.
|
Y GYMRAEG YM MÔN |
|
Yn ôl cyfrifiad 1991 roedd 42,000 o siaradwyr Cymraeg ym Môn, sef oddeutu 61% or boblogaeth. Mae amrywiaeth eang rhwng ardaloedd, gydar canran syn medrur Gymraeg yn amrywio o 17% ger yr arfordir i 85% yng nghanol yr Ynys. Dengys ymchwil cenedlaethol gan NOP bod 88% or boblogaeth yn teimlo bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchio ynddi a bod 75% am iddi gael statws cyfartal âr Saesneg. Dangosodd arolwg manwl gan Menter Iaith Môn bod 84% o drigolion Môn yn cefnogir Gymraeg mewn busnes a bod 74% or Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio busnes syn cynnig gwasanaeth dwyieithog. O holi ymwelwyr â Môn datgelwyd bod 77% ohonynt yn credu bod y Gymraeg yn atyniad ychwanegol. |
|
MENTER IAITH MÔN |
|
Sefydlwyd Menter Iaith Môn yn 1997. Maen cael ei hariannu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Sir Ynys Môn. Fei weinyddir gan Menter Môn, sef y corff syn gyfrifol am gynllun LEADER II y gymuned Ewropeaidd ym Môn. Gweithredir cynlluniau mewn amryw o sectorau.
Maer gwaith yn cynnwys:
|
Am ragor o wybodaeth,anfonwch E-Bost at
Contentscopyright/Cynnwys hawlfraint: Menter Môn,Cyswllt Cyf.
1997-1999. Designed and produced by John Ferry